Contact sales

Ail-ddychmygu eich Cyfathrebiadau Teleffoni GIG

Ymunwch â’n gweithdy diwrnod llawn i ddysgu sut y gallwch ail-ddychmygu cyfathrebiadau yn eich sefydliad

Cofrestrwch heddiw

Mae’r newid i weithio hybrid a’r pwysau cynyddol ar sefydliadau GIG Cymru yn amlygu’r angen am offer cyfathrebu modern. Disgwylir i ymddiriedolaethau a darparwyr gofal iechyd eraill ddarparu gofal cyson o ansawdd uchel wrth gefnogi model gweithio o bell hyblyg ar gyfer eu staff.

Fodd bynnag, heb y datrysiadau modern hyn, ni fydd sefydliadau GIG Cymru yn gallu lleihau costau gweithredu, gwella hyblygrwydd, a chefnogi cyfathrebu di-dor ar draws gwahanol leoliadau.

Mae llawer o Fyrddau GIG ledled y DU eisoes wedi atgyfnerthu eu cyfathrebiadau gan ddefnyddio platfformau fel Microsoft Teams, gan greu systemau unedig sy’n darparu mwy o hyblygrwydd ac yn gwella gofal cleifion.

Bydd ein gweithdy diwrnod llawn, mewn cydweithrediad â Microsoft a Chanolfan Ragoriaeth M365 GIG Cymru, yn eich helpu i ddarganfod pŵer trawsnewidiol datrysiadau cyfathrebu modern. Byddwch hefyd yn dysgu sut y gall datrysiadau blaengar chwyldroi eich strategaeth gyfathrebu, ysgogi arbedion cost sylweddol, a moderneiddio profiad y claf.

CPD Certified Logo

Pam ddylech chi fynd i’r gweithdy?

Byddwch yn darganfod ffyrdd o wneud y canlynol:

  • Gwella profiad y claf: Rheoli’r adegau prysuraf o ran y galw gan leihau amseroedd aros ar yr un pryd trwy gyfeirio galwadau deallus sy'n tywys cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol
  • Darparu gofal cyson: Integreiddio sianeli, adeiladu sylfaen sy'n cyfuno gofal sylfaenol a chymdeithasol, a safoni gwasanaethau sy'n ffocysu ar gleifion ar draws eich sefydliad
  • Cefnogi gweithio hyblyg: Diogelu eich cyfathrebiadau at y dyfodol gyda system y gellir ei graddio ac sy'n gwarantu gwytnwch trwy barhad busnes

Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad?

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd:

  • Yn rheoli gwasanaethau i gleifion, cwsmeriaid a chydweithwyr o fewn sefydliad GIG Cymru sy’n defnyddio ffonau fel rhan o’u darpariaeth gwasanaeth
  • Yn gyfrifol am foderneiddio profiadau cleifion/cwsmeriaid o fewn eu maes gwasanaeth
  • Yn cefnogi gwasanaethau a thimau sy'n defnyddio systemau teleffoni yn eu sefydliad
  • Yn arwain y broses moderneiddio gwaith o fewn sefydliad GIG Cymru
  • Yn edrych i safoni gwasanaethau i gleifion/cwsmeriaid o fewn eu sefydliad GIG Cymru

*Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg*

Mewn cydweithrediad â’r canlynol....

Digital Health and Care Wales

Microsoft

Ein harbenigwyr

Sam Winterbottom

Sam Winterbottom

Cyfarwyddwr y Sector Cyhoeddus, Gamma

Ar hyn o bryd mae Sam yn gyfrifol am reoli’r Uned sector cyhoeddus yn Gamma. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn arwain y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill at well cyfathrebu.

Cysylltwch ar Linkedin

Robert Jones

Robert Jones

Rheolwr Datblygu Busnes, Gamma

Mae rôl Robert yn cynnwys rhoi arweiniad i sefydliadau’r sector cyhoeddus ar ba ddatrysiadau sy’n gweddu orau i’w hanghenion penodol. Mae ganddo brofiad helaeth yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau’r GIG ledled y wlad, gan eu cynorthwyo i ddeall a goresgyn eu heriau.

Cysylltwch ar Linkedin

Tom Hunter

Tom Hunter

Ymgynghorydd Datrysiadau, Gamma

Mae gwybodaeth helaeth Tom am gynnyrch Gamma yn arf hanfodol i sefydliadau sydd am fabwysiadu gwasanaethau cyfathrebu y genhedlaeth nesaf. Mae ei arbenigedd yn helpu sefydliadau’r GIG i droi at ddulliau cyfathrebu modern yn hwylus.

Cysylltwch ar Linkedin

Laeeqa Nasir

Laeeqa Nasir

Rheolwr Llwyddiant Cwsmer, Microsoft

Mae Laeeqa yn arbenigwr cymorth TG profiadol. Mae gan Laeeqa brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant. Mae ei sgiliau yn cynnwys cymorth technegol, profiad y defnyddiwr, a storio data.

Cysylltwch ar Linkedin

Mishra Ashish

Mishra Ashish

Arweinydd Technegol M365 (Gwasanaethau Hunaniaeth a Chydweithio), Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru

Mae gan Ashish dros 14 mlynedd o brofiad ac mae’n bensaer Microsoft 365 a Teams medrus a all warantu lleoliadau perfformiad uchel ar gyfer Microsoft Teams.

Cysylltwch ar Linkedin

Lyn Rees

Lyn Rees

Pennaeth Gwasanaethau Microsoft 365, Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru

Ar hyn o bryd mae Lyn yn arwain y gwaith o sefydlu Canolfan Ragoriaeth genedlaethol Microsoft 365 i ddarparu cymorth, datblygiad ac arloesedd cynaliadwy hirdymor ar gyfer y 130,000 o ddefnyddwyr yn GIG Cymru.

Cysylltwch ar Linkedin

John Wintour-Pittom

John Wintour-Pittom

Pennaeth Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth Telathrebu a Gwasanaethau ThamesNet

Mae John yn arwain datblygiadau technolegol yn Imperial College Healthcare ac Ymddiriedolaethau GIG Chelsea a Westminster, gan ganolbwyntio ar foderneiddio cyfathrebu, awtomeiddio a chynwysoldeb digidol.

Cysylltwch ar Linkedin

Agenda

Nid yw trawsnewid teleffoni yn ymwneud ag uwchraddio technoleg yn unig. Mae’n gam strategol sy’n rhoi hwb i gynhyrchiant ac ansawdd gwasanaeth, gan fynd i’r afael yr un pryd â’r pwysau ariannol a gweithredol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus.

Microsoft Teams Phone:​ Transforming communication in the NHS

Yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn mewn sefydliad gofal iechyd arall, byddwch yn gallu clywed yr heriau a wynebwyd a pham yr oedd angen trawsnewid digidol, a arweiniodd yn y pen draw at wella gofal a gwasanaeth cleifion.

Bydd cinio hefyd yn cael ei ddarparu!

Lleoliad

Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar 23 Ionawr

Cofrestrwch heddiw

Gwesty’r Parkgate
Heol y Porth
Caerdydd
CF10 1DA

Cofrestrwch Nawr

Microsoft Teams Phone:​ Transforming communication in the NHS